16 O feibion Gersom; Sebuel oedd y pennaf.
17 A meibion Elieser oedd, Rehabia y cyntaf. Ac i Elieser nid oedd meibion eraill; ond meibion Rehabia a amlhasant yn ddirfawr.
18 O feibion Ishar; Selomith y pennaf.
19 O feibion Hebron; Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd.
20 O feibion Ussiel; Micha y cyntaf, a Jeseia yr ail.
21 Meibion Merari oedd, Mahli a Musi. Meibion Mahli; Eleasar a Chis.
22 A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis eu brodyr a'u priododd hwynt.