2 Ac efe a gynullodd holl dywysogion Israel, a'r offeiriaid, a'r Lefiaid.
3 A'r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a'u nifer hwy wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain.
4 O'r rhai yr oedd pedair mil ar hugain i oruchwylio ar waith tŷ yr Arglwydd; ac yn swyddogion, ac yn farnwyr, chwe mil:
5 A phedair mil yn borthorion, a phedair mil yn moliannu yr Arglwydd â'r offer a wnaethwn i, ebe Dafydd, i foliannu.
6 A dosbarthodd Dafydd hwynt yn ddosbarthiadau ymysg meibion Lefi, sef Gerson, Cohath, a Merari.
7 O'r Gersoniaid yr oedd Laadan a Simei.
8 Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri.