22 A bu farw Eleasar, a meibion nid oedd iddo ef, ond merched; a meibion Cis eu brodyr a'u priododd hwynt.
23 Meibion Musi; Mahli, ac Eder a Jerimoth, tri.
24 Dyma feibion Lefi, yn ôl tŷ eu tadau, pennau eu cenedl, wrth eu rhifedi, dan nifer eu henwau wrth eu pennau, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith i wasanaeth tŷ yr Arglwydd, o fab ugain mlwydd ac uchod.
25 Canys dywedodd Dafydd, Arglwydd Dduw Israel a roddes lonyddwch i'w bobl, i aros yn Jerwsalem byth;
26 A hefyd i'r Lefiaid: ni ddygant mwyach y tabernacl, na dim o'i lestri, i'w wasanaeth ef.
27 Canys yn ôl geiriau diwethaf Dafydd y cyfrifwyd meibion Lefi, o fab ugain mlwydd ac uchod:
28 A'u gwasanaeth hwynt oedd i fod wrth law meibion Aaron yng ngweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, yn y cynteddau, ac yn y celloedd, ac ym mhuredigaeth pob sancteiddbeth, ac yng ngwaith gweinidogaeth tŷ Dduw;