8 Meibion Laadan; y pennaf Jehiel, a Setham, a Joel, tri.
9 Meibion Simei; Selomith, a Hasiel, a Haran, tri. Y rhai hyn oedd bennau‐cenedl Laadan.
10 Meibion Simei hefyd oedd, Jahath, Sina, a Jeus, a Bereia. Dyma bedwar mab Simei.
11 A Jahath oedd bennaf, a Sisa yn ail: ond Jeus a Bereia nid oedd nemor o feibion iddynt; am hynny yr oeddynt hwy yn un cyfrif wrth dŷ eu tad.
12 Meibion Cohath; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel, pedwar.
13 Meibion Amram oedd, Aaron a Moses; ac Aaron a neilltuwyd i sancteiddio y cysegr sancteiddiolaf, efe a'i feibion byth, i arogldarthu gerbron yr Arglwydd, i'w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd.
14 A Moses gŵr Duw, ei feibion ef a alwyd yn llwyth Lefi.