1 Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar.
2 A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant.
3 A Dafydd a'u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleasar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasanaeth.
4 A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu tadau, wyth.