10 O Hosa hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion; Simri y pennaf, (er nad oedd efe gyntaf‐anedig, eto ei dad a'i gosododd ef yn ben;)
11 Hilceia yr ail, Tebaleia y trydydd, Sechareia y pedwerydd: holl feibion a brodyr Hosa oedd dri ar ddeg.
12 Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosbarthiadau y porthorion, sef ymhlith y penaethiaid, ac iddynt oruchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ yr Arglwydd.
13 A hwy a fwriasant goelbrennau, fychan a mawr, yn ôl tŷ eu tadau, am bob porth.
14 A choelbren Selemeia a syrthiodd tua'r dwyrain: a thros Sechareia ei fab, cynghorwr deallgar, y bwriasant hwy goelbrennau; a'i goelbren ef a ddaeth tua'r gogledd.
15 I Obed‐edom tua'r deau, ac i'w feibion, y daeth tŷ Asuppim.
16 I Suppim, a Hosa, tua'r gorllewin, gyda phorth Salecheth, yn ffordd y rhiw, yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall.