14 A choelbren Selemeia a syrthiodd tua'r dwyrain: a thros Sechareia ei fab, cynghorwr deallgar, y bwriasant hwy goelbrennau; a'i goelbren ef a ddaeth tua'r gogledd.
15 I Obed‐edom tua'r deau, ac i'w feibion, y daeth tŷ Asuppim.
16 I Suppim, a Hosa, tua'r gorllewin, gyda phorth Salecheth, yn ffordd y rhiw, yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall.
17 Tua'r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid, tua'r gogledd pedwar beunydd, tua'r deau pedwar beunydd, a thuag Asuppim dau a dau.
18 A Pharbar tua'r gorllewin, pedwar ar y ffordd, a dau yn Parbar.
19 Dyma ddosbarthiadau y porthorion, o feibion Core, ac o feibion Merari.
20 Ac o'r Lefiaid, Ahïa oedd ar drysorau tŷ Dduw, ac ar drysorau y pethau cysegredig.