20 Ac o'r Lefiaid, Ahïa oedd ar drysorau tŷ Dduw, ac ar drysorau y pethau cysegredig.
21 Am feibion Laadan: meibion y Gersoniad Laadan, pennau tylwyth Laadan y Gersoniad, oedd Jehieli.
22 Meibion Jehieli; Setham, a Joel ei frawd, oedd ar drysorau tŷ yr Arglwydd.
23 O'r Amramiaid, a'r Ishariaid, o'r Hebroniaid, a'r Ussieliaid:
24 A Sebuel mab Gersom, mab Moses, oedd olygwr ar y trysorau.
25 A'i frodyr ef o Eleasar; Rehabia ei fab ef, a Jesaia ei fab yntau, a Joram ei fab yntau, a Sichri ei fab yntau, a Selomith ei fab yntau.
26 Y Selomith hwnnw a'i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin, a'r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd a'r cannoedd, a thywysogion y llu.