14 Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
15 Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad, o Othniel; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain.
16 Ac ar lwythau Israel: ar y Reubeniaid, Elieser mab Sichri oedd dywysog: ar y Simeoniaid, Seffatia mab Maacha:
17 Ar y Lefiaid, Hasabeia mab Cemuel: ar yr Aaroniaid, Sadoc:
18 Ar Jwda, Elihu, un o frodyr Dafydd: ar Issachar, Omri mab Michael:
19 Ar Sabulon, Ismaia mab Obadeia: ar Nafftali, Jerimoth mab Asriel:
20 Ar feibion Effraim, Hosea mab Asaseia: ar hanner llwyth Manasse, Joel mab Pedaia: