21 Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead, Ido mab Sechareia: ar Benjamin, Jaasiel mab Abner:
22 Ar Dan, Asarel mab Jeroham. Dyma dywysogion llwythau Israel.
23 Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod; canys dywedasai yr Arglwydd yr amlhâi efe Israel megis sêr y nefoedd.
24 Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif, ond ni orffennodd efe, am fod o achos hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon cronicl y brenin Dafydd.
25 Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel: ac ar y trysordai yn y meysydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi hefyd, ac yn y tyrau, yr oedd Jehonathan mab Usseia.
26 Ac ar weithwyr y maes, y rhai oedd yn llafurio y ddaear, yr oedd Esri mab Celub.
27 Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad: ac ar yr hyn oedd yn dyfod o'r gwinllannoedd i'r selerau gwin, yr oedd Sabdi y Siffmiad.