31 Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad. Y rhai hyn oll oedd dywysogion y golud eiddo y brenin Dafydd.
32 A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr, gŵr doeth, ac ysgrifennydd: Jehiel hefyd mab Hachmom oedd gyda meibion y brenin.
33 Ac Ahitoffel oedd gynghorwr y brenin; a Husai yr Arciad oedd gyfaill y brenin.
34 Ac ar ôl Ahitoffel yr oedd Jehoiada mab Benaia, ac Abiathar: a thywysog llu y brenin oedd Joab.