1 A Dafydd a gynullodd holl dywysogion Israel, tywysogion y llwythau, a thywysogion y dosbarthiadau, y rhai oedd yn gwasanaethu'r brenin, tywysogion y miloedd hefyd, a thywysogion y cannoedd, a thywysogion holl olud a meddiant y brenin, a'i feibion, gyda'r ystafellyddion, a'r cedyrn, a phob un grymusol o nerth, i Jerwsalem.
2 A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr, a'm pobl; Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr Arglwydd, ac i ystôl draed ein Duw ni, a mi a baratoais tuag at adeiladu.
3 Ond Duw a ddywedodd wrthyf, Nid adeiledi di dŷ i'm henw i, canys rhyfelwr fuost, a gwaed a dywelltaist.
4 Er hynny Arglwydd Dduw Israel a'm hetholodd i o holl dŷ fy nhad, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac o dŷ Jwda, tŷ fy nhad i; ac o feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel:
5 Ac o'm holl feibion innau, (canys llawer o feibion a roddes yr Arglwydd i mi,) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr Arglwydd, ar Israel.
6 Dywedodd hefyd wrthyf, Solomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a'm cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minnau a fyddaf iddo ef yn dad.
7 A'i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd, os efe a ymegnïa i wneuthur fy ngorchmynion a'm barnedigaethau i, megis y dydd hwn.