12 A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd, am gynteddau tŷ yr Arglwydd, ac am yr holl ystafelloedd o amgylch, am drysorau tŷ Dduw, ac am drysorau y pethau cysegredig:
13 Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a'r Lefiaid, ac am holl waith gweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr Arglwydd.
14 Efe a roddes o aur wrth bwys, i'r pethau o aur, tuag at holl lestri pob gwasanaeth, ac arian i'r holl lestri arian, mewn pwys, tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth:
15 Sef pwys y canwyllbrenni aur, a'u lampau aur, wrth bwys i bob canhwyllbren ac i'w lampau: ac i'r canwyllbrennau arian wrth bwys, i'r canhwyllbren ac i'w lampau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren.
16 Aur hefyd dan bwys, tuag at fyrddau y bara gosod, i bob bwrdd; ac arian i'r byrddau arian;
17 Ac aur pur i'r cigweiniau, ac i'r ffiolau, ac i'r dysglau, ac i'r gorflychau aur, wrth bwys pob gorflwch: ac i'r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch;
18 Ac i allor yr arogl‐darth, aur pur wrth bwys; ac aur i bortreiad cerbyd y ceriwbiaid oedd yn ymledu, ac yn gorchuddio arch cyfamod yr Arglwydd.