6 Dywedodd hefyd wrthyf, Solomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a'm cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minnau a fyddaf iddo ef yn dad.
7 A'i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd, os efe a ymegnïa i wneuthur fy ngorchmynion a'm barnedigaethau i, megis y dydd hwn.
8 Yn awr gan hynny, yng ngŵydd holl Israel, cynulleidfa yr Arglwydd, a lle y clywo ein Duw ni, cedwch a cheisiwch holl orchmynion yr Arglwydd eich Duw, fel y meddiannoch y wlad dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i'ch meibion ar eich ôl yn dragywydd.
9 A thithau Solomon fy mab, adnebydd Dduw dy dad, a gwasanaetha ef â chalon berffaith, ac â meddwl ewyllysgar: canys yr Arglwydd sydd yn chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a'i cei; ond os gwrthodi ef, efe a'th fwrw di ymaith yn dragywydd.
10 Gwêl yn awr mai yr Arglwydd a'th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr: ymgryfha, a gwna.
11 Yna y rhoddes Dafydd i Solomon ei fab bortreiad y porth, a'i dai, a'i selerau, a'i gellau, a'i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa,
12 A phortreiad yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd, am gynteddau tŷ yr Arglwydd, ac am yr holl ystafelloedd o amgylch, am drysorau tŷ Dduw, ac am drysorau y pethau cysegredig: