20 Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr Arglwydd eich Duw. A'r holl dyrfa a fendithiasant Arglwydd Dduw eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i'r Arglwydd, ac i'r brenin.
21 Aberthasant hefyd ebyrth i'r Arglwydd, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr aberthasant yn boethoffrymmau i'r Arglwydd, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o ŵyn, a'u diod‐offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel:
22 Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr Arglwydd y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i'r Arglwydd yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad.
23 Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr Arglwydd yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno.
24 Yr holl dywysogion hefyd a'r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin.
25 A'r Arglwydd a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogoniant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o'i flaen ef yn Israel.
26 Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel.