4 Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
5 A'r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel:
6 Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet,
7 A Noga, a Neffeg, a Jaffia,
8 Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw.
9 Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.
10 A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a Jehosaffat ei fab yntau;