21 A meibion Sela mab Jwda oedd, Er tad Lecha, a Laada tad Maresa, a theuluoedd tylwyth gweithyddion lliain main, o dŷ Asbea,
22 A Jocim, a dynion Choseba, a Joas, a Saraff, y rhai oedd yn arglwyddiaethu ar Moab, a Jasubilehem. Ac y mae y pethau hyn yn hen.
23 Y rhai hyn oedd grochenyddion yn cyfanheddu ymysg planwydd a chaeau; gyda'r brenin yr arosasant yno yn ei waith ef.
24 Meibion Simeon oedd, Nemuel, a Jamin, Jarib, Sera, a Saul:
25 Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.
26 A meibion Misma; Hamuel ei fab yntau, Sacchur ei fab yntau, Simei ei fab yntau.
27 Ac i Simei yr oedd un ar bymtheg o feibion, a chwech o ferched, ond i'w frodyr ef nid oedd nemor o feibion: ac nid amlhasai eu holl deulu hwynt megis meibion Jwda.