28 A meibion Samuel; y cyntaf‐anedig, Fasni, yna Abeia.
29 Meibion Merari; Mahli, Libni ei fab yntau, Simei ei fab yntau, Ussa ei fab yntau,
30 Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau.
31 Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr Arglwydd, ar ôl gorffwys o'r arch.
32 A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod, nes adeiladu o Solomon dŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth.
33 A dyma y rhai a weiniasant, a'u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid; Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel,
34 Fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa,