30 Simea ei fab yntau, Haggia ei fab yntau, Asaia ei fab yntau.
31 Y rhai hyn a osododd Dafydd yn gantorion yn nhŷ yr Arglwydd, ar ôl gorffwys o'r arch.
32 A hwy a fuant weinidogion mewn cerdd o flaen tabernacl pabell y cyfarfod, nes adeiladu o Solomon dŷ yr Arglwydd yn Jerwsalem: a hwy a safasant wrth eu defod yn eu gwasanaeth.
33 A dyma y rhai a weiniasant, a'u meibion hefyd: o feibion y Cohathiaid; Heman y cantor, mab Joel, fab Semuel,
34 Fab Elcana, fab Jeroham, fab Eliel, fab Toa,
35 Fab Suff, fab Elcana, fab Mahath, fab Amasai,
36 Fab Elcana, fab Joel, fab Asareia, fab Seffaneia,