44 A'u brodyr hwynt, meibion Merari, oedd ar y llaw aswy: Ethan mab Cisi, fab Abdi, fab Maluc,
45 Fab Hasabeia, fab Amaseia, fab Hilceia,
46 Fab Amsi, fab Bani, fab Samer,
47 Fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi.
48 A'u brodyr hwynt y Lefiaid oedd gwedi eu rhoddi ar holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw.
49 Ond Aaron a'i feibion a aberthasant ar allor y poethoffrwm, ac ar allor yr arogl‐darth, i gyflawni holl wasanaeth y cysegr sancteiddiolaf, ac i wneuthur cymod dros Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses gwas Duw.
50 Dyma hefyd feibion Aaron; Eleasar ei fab ef, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau,