52 Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau,
53 Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.
54 A dyma eu trigleoedd hwynt yn ôl eu palasau, yn eu terfynau; sef meibion Aaron, o dylwyth y Cohathiaid: oblegid eiddynt hwy ydoedd y rhan hon.
55 A rhoddasant iddynt Hebron yng ngwlad Jwda, a'i meysydd pentrefol o'i hamgylch.
56 Ond meysydd y ddinas, a'i phentrefi, a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne.
57 Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas noddfa, a Libna a'i meysydd pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a'u meysydd pentrefol,
58 A Hilen a'i meysydd pentrefol, a Debir a'i meysydd pentrefol,