56 Ond meysydd y ddinas, a'i phentrefi, a roddasant hwy i Caleb mab Jeffunne.
57 Ac i feibion Aaron y rhoddasant hwy ddinasoedd Jwda, sef Hebron, y ddinas noddfa, a Libna a'i meysydd pentrefol, a Jattir ac Estemoa, a'u meysydd pentrefol,
58 A Hilen a'i meysydd pentrefol, a Debir a'i meysydd pentrefol,
59 Ac Asan a'i meysydd pentrefol, a Bethsemes a'i meysydd pentrefol:
60 Ac o lwyth Benjamin; Geba a'i meysydd pentrefol, ac Alemeth a'i meysydd pentrefol, ac Anathoth a'i meysydd pentrefol: eu holl ddinasoedd hwynt trwy eu teuluoedd oedd dair dinas ar ddeg.
61 Ac i'r rhan arall o feibion Cohath o deulu y llwyth hwnnw, y rhoddwyd o'r hanner llwyth, sef hanner Manasse, ddeg dinas wrth goelbren.
62 Rhoddasant hefyd i feibion Gersom trwy eu teuluoedd, o lwyth Issachar, ac o lwyth Aser, ac o lwyth Nafftali, ac o lwyth Manasse yn Basan, dair ar ddeg o ddinasoedd.