26 Laadan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau,
27 Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.
28 A'u meddiant a'u cyfanheddau oedd, Bethel a'i phentrefi, ac o du y dwyrain Naaran, ac o du y gorllewin Geser a'i phentrefi; a Sichem a'i phentrefi, hyd Gasa a'i phentrefi:
29 Ac ar derfynau meibion Manasse, Beth‐sean, a'i phentrefi, Taanach a'i phentrefi, Megido a'i phentrefi, Dor a'i phentrefi. Meibion Joseff mab Israel a drigasant yn y rhai hyn.
30 Meibion Aser; Imna, ac Isua, ac Isuai, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt.
31 A meibion Bereia; Heber, a Malchiel, hwn yw tad Birsafith.
32 A Heber a genhedlodd Jafflet, a Somer, a Hotham, a Sua eu chwaer hwynt.