4 A chyda hwynt yn eu cenedlaethau, ac yn ôl tŷ eu tadau, yr ydoedd byddinoedd milwyr i ryfel, un fil ar bymtheg ar hugain: canys llawer oedd ganddynt o wragedd a meibion.
5 A'u brodyr cedyrn o nerth, o holl deuluoedd Issachar, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn saith mil a phedwar ugain mil oll.
6 A meibion Benjamin oedd, Bela, a Becher, a Jediael, tri.
7 A meibion Bela; Esbon, ac Ussi, ac Ussiel, a Jerimoth, ac Iri; pump o bennau tŷ eu tadau, cedyrn o nerth, a gyfrifwyd wrth eu hachau, yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain.
8 A meibion Becher oedd, Semira, a Joas, ac Elieser, ac Elioenai, ac Omri, a Jerimoth, ac Abeia, ac Anathoth, ac Alemeth: y rhai hyn oll oedd feibion Becher.
9 A hwy a rifwyd wrth eu hachau, yn ôl eu cenedlaethau, yn bennau tŷ eu tadau, yn gedyrn o nerth, yn ugain mil a dau cant.
10 A meibion Jediael; Bilhan: a meibion Bilhan; Jeus, a Benjamin, ac Ehud, a Chenaana, a Sethan, a Tharsis, ac Ahisahar.