1 Cronicl 1 BNET

O Adda i feibion Noa

1 Adda, Seth, Enosh,

2 Cenan, Mahalal-el, Iered,

3 Enoch, Methwsela, Lamech,

4 Noa, Shem, Cham, a Jaffeth.

Disgynyddion Jaffeth

5 Meibion Jaffeth:Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras.

6 Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma.

7 Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Rhodos.

Disgynyddion Cham

8 Meibion Cham:Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan.

9 Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha.Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.

10 Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod: y concwerwr cyntaf ar y ddaear.

11 Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid,

12 Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a'r Cafftoriaid.

13 Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o'i fab hynaf), a'r Hethiaid,

14 y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid,

15 Hefiaid, Arciaid, Siniaid,

16 Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath.

Disgynyddion Shem

17 Meibion Shem:Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram.Disgynyddion Aram oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Meshech.

18 Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber.

19 Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu. Enw ei frawd oedd Ioctan.

20 Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach,

21 Hadoram, Wsal, Dicla,

22 Obal, Abima-el, Sheba,

23 Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan.

24 Cangen arall o deulu Shem:Shem, drwy Arffacsad, Shelach,

25 Eber, Peleg, Reu,

26 Serwg, Nachor, Tera,

27 i Abram (sef Abraham).

28 Meibion Abraham:Isaac ac Ishmael.

29 A dyma eu disgynyddion nhw:Nebaioth oedd mab hynaf Ishmael, wedyn Cedar, Adbeël, Mifsam,

Disgynyddion Ishmael

30 Mishma, Dwma, Massa, Hadad, Tema,

31 Ietwr, Naffish a Cedema. Y rhain oedd meibion Ishmael.

Disgynyddion Abraham drwy Cetwra

32 Meibion Cetwra, partner Abraham:Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach.Meibion Iocsan:Sheba, a Dedan.

33 Meibion Midian:Effa, Effer, Hanoch, Abida, ac Eldaa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra.

Disgynyddion Isaac

34 Abraham oedd tad Isaac. A meibion Isaac oedd Esau ac Israel.

Disgynyddion Esau

35 Meibion Esau:Eliffas, Reuel, Iewsh, Ialam, a Cora.

36 Meibion Eliffas:Teman, Omar, Seffi, Gatam, Cenas, a (drwy Timna) Amalec.

37 Meibion Reuel:Nachath, Serach, Shamma, a Missa.

Disgynyddion Seir

38 Meibion Seir:Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, Dishon, Etser a Dishan.

39 Meibion Lotan:Chori, a Homam (A Timna oedd chwaer Lotan.)

40 Meibion Shofal:Alïan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.Meibion Sibeon:Aia, ac Ana.

41 Mab Ana:Dishon.Meibion Dishon:Hemdan, Eshban, Ithran a Ceran.

42 Meibion Etser:Bilhan, Saafan, a Iacân.Meibion Dishan:Us ac Aran.

Brenhinoedd Edom

43 Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:Bela fab Beor, oedd yn dod o dref Dinhaba.

44 Ar ôl i Bela farw dyma Iobab fab Serach o Bosra yn dod yn frenin yn ei le.

45 Ar ôl i Iobab farw, Chwsham o ardal Teman ddaeth yn frenin.

46 Ar ôl i Chwsham farw, Hadad fab Bedad o dre Afith ddaeth yn frenin. (Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.)

47 Ar ôl i Hadad farw dyma Samla o Masreca yn dod yn frenin.

48 Ar ôl i Samla farw, Saul o Rehoboth ar Afon Ewffrates ddaeth yn frenin.

49 Ar ôl i Saul farw dyma Baal-chanan fab Achbor yn dod yn frenin.

50 Wedyn ar ôl i Baal-chanan farw dyma Hadad o dre Pai yn dod yn frenin. Enw ei wraig oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).

51 Yna dyma Hadad yn marw.A dyma enwau arweinwyr Edom:Timna, Alfa, Ietheth,

Arweinwyr Llwythau Edom

52 Oholibama, Ela, Pinon,

53 Cenas, Teman, Miftsar,

54 Magdiel ac Iram. Y rhain oedd arweinwyr llwythau Edom.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29