1 Dyma feibion Israel:Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
2 Dan, Joseff, Benjamin, Nafftali, Gad, ac Asher.
3 Meibion Jwda:Er, Onan a Shela. (Cafodd y tri yma eu geni i wraig o Canaan, sef merch Shwa.) Roedd Er, mab hynaf Jwda, yn gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD, felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd e.
4 Yna dyma Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda yn cael dau fab iddo – sef Perets a Serach. Felly roedd gan Jwda bump mab i gyd.
5 Meibion Perets:Hesron a Chamŵl.
6 Meibion Serach:Simri, Ethan, Heman, Calcol a Dara – pump i gyd.
7 Mab Carmi:Achar, yr un achosodd helynt i Israel drwy ddwyn beth oedd wedi ei gysegru i Dduw.
8 Mab Ethan:Asareia.
9 Meibion Hesron:Ierachmeël, Ram a Caleb.
10 Ram oedd tad Aminadab,Aminadab oedd tad Nachshon, pennaeth llwyth Jwda.
11 Nachshon oedd tad Salma,a Salma oedd tad Boas.
12 Boas oedd tad Obed,ac Obed oedd tad Jesse.
13 Jesse oedd tad Eliab (ei fab hynaf), yna Abinadab, Shamma,
14 Nethanel, Radai,
15 Otsem a Dafydd.
16 A'i chwiorydd nhw oedd Serwia ac Abigail.Roedd gan Serwia dri mab – Abishai, Joab ac Asahel.
17 Cafodd Abigail fab o'r enw Amasa, a'r tad oedd Jether yr Ismaeliad.
18 Cafodd Caleb fab Hesron blant gyda'i wraig Aswba a gyda Ierioth. Ei meibion hi oedd Jeser, Shofaf ac Ardon.
19 Pan fuodd Aswba farw, dyma Caleb yn priodi Effrath, a cafodd hi fab arall iddo, sef Hur.
20 Hur oedd tad Wri,ac Wri oedd tad Betsalel.
21 Dyma Hesron yn cael rhyw gyda merch i Machir (tad Gilead). Roedd e wedi ei phriodi pan oedd yn chwe deg oed. A dyma hi'n cael mab iddo, sef Segwf.
22 Segwf oedd tad Jair, oedd yn berchen dau ddeg tri o bentrefi yn ardal Gilead.
23 (Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda'r chwe deg pentref o'i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead.
24 Ar ôl i Hesron farw dyma Caleb ei fab yn cael rhyw gydag Effrath, gweddw ei dad. A dyma hi'n cael mab iddo fe, sef Ashchwr, ddaeth yn dad i Tecoa.
25 Meibion Ierachmeël, mab hynaf Hesron:Ram (yr hynaf), Bwna, Oren, Otsem ac Achïa.
26 Ac roedd gan Ierachmeël wraig arall o'r enw Atara, a hi oedd mam Onam.
27 Meibion Ram (mab hynaf Ierachmeël):Maas, Iamin ac Ecer.
28 Meibion Onam:Shammai a Iada.Meibion Shammai:Nadab ac Abishŵr.
29 Gwraig Abishŵr oedd Abihail, gafodd ddau blentyn iddo, sef Achban a Molid.
30 Meibion Nadab:Seled ac Appaïm. (Buodd Seled farw heb gael plant).
31 Mab Appaïm:Ishi.Mab Ishi:Sheshan.Mab Sheshan:Achlai.
32 Meibion Iada (brawd Shammai):Jether a Jonathan. (Buodd Jether farw heb gael plant).
33 Meibion Jonathan:Peleth a Sasa.Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ierachmeël.
34 Doedd gan Sheshan ddim meibion, dim ond merched. Roedd ganddo was o'r enw Iarcha oedd yn Eifftiwr.
35 A dyma Sheshan yn rhoi un o'i ferched yn wraig i Iarcha, a dyma hi'n cael mab iddo, sef Attai.
36 Attai oedd tad Nathan,Nathan oedd tad Safad,
37 Safad oedd tad Efflal,Efflal oedd tad Obed,
38 Obed oedd tad Jehw,Jehw oedd tad Asareia,
39 Asareia oedd tad Chelets,Chelets oedd tad Elasa,
40 Elasa oedd tad Sismai,Sismai oedd tad Shalwm,
41 Shalwm oedd tad Iecameia,a Iecameia oedd tad Elishama.
42 Meibion Caleb, brawd Ierachmeël:Mesha (ei fab hynaf), oedd yn dad i Siff, a Maresha (ei ail fab), oedd yn dad i Hebron.
43 Meibion Hebron:Cora, Tappŵach, Recem a Shema.
44 Shema oedd tad Racham, oedd yn dad i Iorceam.Recem oedd tad Shammai.
45 Mab Shammai oedd Maon, oedd yn dad i Beth-tswr.
46 Dyma Effa, partner Caleb, yn geni Haran, Motsa a Gases. Charan oedd tad Gases.
47 Meibion Iahdai:Regem, Jotham, Geshan, Pelet, Effa a Shaäff.
48 Dyma Maacha, partner Caleb, yn geni Shefer a Tirchana.
49 Hi hefyd oedd mam Shaäff oedd yn dad i Madmanna, a Shefa oedd yn dad i Machbena a Gibea. Merch arall Caleb oedd Achsa.
50 Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Caleb.Meibion Hur, mab hynaf Effrath, gwraig Caleb:Shofal (hynafiad pobl Ciriath-iearim),
51 Salma (hynafiad pobl Bethlehem), a Chareff (hynafiad pobl Beth-gader).
52 Disgynyddion Shofal, hynafiad Ciriath-iearim, oedd Haroe a hanner y Menwchoiaid,
53 llwythau Ciriath-iearim – yr Ithriaid, Pwthiaid, Shwmathiaid, a'r Mishraiaid. (Roedd y Soriaid a'r Eshtaoliaid yn ddisgynyddion i'r grwpiau yma hefyd.)
54 Disgynyddion Salma:pobl Bethlehem, y Netoffathiaid, Atroth-beth-joab, hanner arall y Manachathiaid, y Soriaid,
55 a teuluoedd yr ysgrifenyddion oedd yn byw yn Jabets, sef y Tirathiaid, Shimeathiaid, a'r Swchathiaid. Y rhain ydy'r Ceneaid, sy'n ddisgynyddion i Chamath, tad Beth-rechab.