1 Dyma nhw'n dod ag Arch Duw a'i gosod yn y babell roedd Dafydd wedi chodi iddi. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith Duw.
2 Ar ôl cyflwyno'r offrymau yma, dyma Dafydd yn bendithio'r bobl yn enw yr ARGLWYDD.
3 Yna dyma fe'n rhannu bwyd i bawb yn Israel – dynion a merched. Cafodd pawb dorth o fara, teisen datys a teisen rhesin.
4 Yna dyma fe'n penodi rhai o'r Lefiaid i arwain yr addoliad o flaen Arch yr ARGLWYDD, i ailadrodd yr hanes wrth ganu a moli'r ARGLWYDD, Duw Israel.
5 Asaff oedd y pennaeth, a Sechareia yn ei helpu. Roedd Jeiel, Shemiramoth, Iechiel, Matitheia, Eliab, Benaia, Obed-Edom, a Jeiel yn canu nablau a thelynau gwahanol, ac Asaff yn taro'r symbalau;
6 a'r offeiriaid, Benaia a Iachsiel yn canu utgyrn yn rheolaidd o flaen Arch Ymrwymiad Duw.
7 Ar y diwrnod hwnnw rhoddodd Dafydd, i Asaff a'i gyfeillion, y gân hon o ddiolch:
8 Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw!Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud.
9 Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli!Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
10 Broliwch ei enw sanctaidd!Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu.
11 Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth;ceisiwch ei gwmni bob amser.
12 Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth –ei wyrthiau, a'r cwbl y gwnaeth ei farnu!
13 Ie, chi blant ei was Israel;plant Jacob mae wedi eu dewis.
14 Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e;yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan.
15 Cofiwch ei ymrwymiad bob amser,a'i addewid am fil o genedlaethau –
16 yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham,a'r addewid wnaeth e ar lw i Isaac.
17 Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob –ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!
18 “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai,“yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”
19 Dim ond criw bach ohonoch chi oedd –rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro,
20 ac yn crwydro o un wlad i'r llall,ac o un deyrnas i'r llall.
21 Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw;roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:
22 “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i;peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”
23 Y ddaear gyfan, canwch i'r ARGLWYDD!a dweud bob dydd sut mae e'n achub.
24 Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e;wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
25 Mae'r ARGLWYDD yn Dduw mawr, ac yn haeddu ei foli!Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‛duwiau‛ eraill i gyd.
26 Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd,ond yr ARGLWYDD wnaeth greu y nefoedd!
27 Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg;mae cryfder a llawenydd yn ei bresenoldeb.
28 Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch!Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r ARGLWYDD!
29 Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!Dewch o'i flaen i gyflwyno rhodd iddo!Plygwch i addoli'r ARGLWYDDsydd mor hardd yn ei gysegr!
30 Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd!Mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.
31 Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen!Dwedwch ymysg y cenhedloedd,“Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!”
32 Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi!Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu!
33 Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llaweno flaen yr ARGLWYDD, am ei fod e'n dod –mae'n dod i roi trefn ar y ddaear!
34 Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
35 Dwedwch, “Achub ni, O Dduw yr achubwr!Casgla ni ac achub ni o blith y cenhedloedd!Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd,ac yn brolio'r cwbl wyt ti wedi ei wneud.”
36 Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel,o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb!A dyma'r bobl i gyd yn dweud, “Amen! Haleliwia!”
37 Dyma Dafydd yn penodi Asaff a'i frodyr i arwain yr addoliad o flaen Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i wneud popeth oedd angen ei wneud bob dydd.
38 Gyda nhw roedd Obed-Edom a'i chwe deg wyth o frodyr. Obed-edom, mab Iedwthwn, a Chosa oedd yn gofalu am y giatiau.
39 (Roedd wedi gadael Sadoc yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, i wasanaethu o flaen tabernacl yr ARGLWYDD wrth yr allor leol yn Gibeon.
40 Roedden nhw i losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar allor yr aberthau. Roedden nhw i wneud hyn bob bore a gyda'r nos fel mae'n dweud yn y gyfraith oedd yr ARGLWYDD wedi ei rhoi i Israel.)
41 Yno gyda nhw roedd Heman, Iedwthwn ac eraill. Roedd y rhain wedi eu dewis wrth eu henwau i ddiolch i'r ARGLWYDD (Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!)
42 Heman a Iedwthwn oedd yn gofalu am yr utgyrn a'r symbalau a'r offerynnau cerdd eraill oedd yn cael eu defnyddio i foli Duw. A meibion Iedwthwn oedd yn gwarchod y fynedfa.
43 Yna dyma'r bobl i gyd yn mynd adre, ac aeth Dafydd yn ôl i fendithio ei deulu ei hun.