1 Cronicl 11 BNET

Dafydd yn frenin ar Israel gyfan

1 Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Hebron at Dafydd, a dweud wrtho, “Edrych, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd.

2 Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel ac yna dod â nhw adre. Mae'r ARGLWYDD dy Dduw wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’”

3 Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma'r brenin yn gwneud cytundeb gyda nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw'n ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, fel roedd Duw wedi addo drwy Samuel.

Dafydd yn concro Jerwsalem

4 Aeth Dafydd a byddin Israel i ymosod ar Jerwsalem, sef Jebws. (Y Jebwsiaid oedd wedi byw yn yr ardal honno erioed.)

5 A dyma bobl Jebws yn dweud wrth Dafydd, “Ddoi di byth i mewn yma!” Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd).

6 Roedd Dafydd wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy'n arwain yr ymosodiad ar y Jebwsiaid yn cael ei wneud yn bennaeth y fyddin!” Joab fab Serwia wnaeth arwain yr ymosodiad, a daeth yn bennaeth y fyddin.

7 Aeth Dafydd i fyw i'r gaer, a dyna pam mae'n cael ei galw yn Ddinas Dafydd.

8 Dyma fe'n adeiladu o'i chwmpas o'r terasau at y waliau allanol. A dyma Joab yn ailadeiladu gweddill y ddinas.

9 Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD holl-bwerus gydag e.

Milwyr dewr Dafydd

10 Dyma arweinwyr byddin Dafydd wnaeth helpu i sefydlu ei deyrnas fel brenin Israel gyfan, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo.

11 Dyma restr o'i filwyr dewr:Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth y swyddogion. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon mewn un frwydr.

12 Yna nesa ato fe roedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach, un o'r ‛Tri Dewr‛.

13 Roedd e gyda Dafydd yn herio'r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Wrth ymyl cae oedd yn llawn o haidd, roedd y fyddin wedi ffoi oddi wrth y Philistiaid.

14 Ond yna dyma nhw'n sefyll eu tir yng nghanol y cae hwnnw. Dyma nhw'n ei amddiffyn ac yn taro'r Philistiaid, a dyma'r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddyn nhw.

15 Dyma dri o'r tri deg arweinydd yn mynd i lawr at Dafydd at y graig sydd wrth ymyl Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.

16 Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra roedd prif garsiwn milwrol y Philistiaid yn Bethlehem.

17 Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe'n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o'r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!”

18 Felly dyma'r ‛Tri Dewr‛ yn mynd trwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o'r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw'n dod a'r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe'n ei dywallt yn offrwm i'r ARGLWYDD,

19 a dweud, “O Dduw, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro eu bywydau i'w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed am fod y dynion wedi mentro eu bywydau i'w nôl. Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‛Tri Dewr‛.

20 Abishai, brawd Joab, oedd pennaeth y ‛Tri dewr‛. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda'i waywffon un tro. Roedd yn enwog fel y Tri.

21 I ddweud y gwir roedd e'n fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e'i hun ddim yn un o'r ‛Tri‛.

22 Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël, yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira.

23 Roedd wedi lladd cawr o ddyn o'r Aifft, saith troedfedd a hanner o daldra. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon fawr fel carfan gwehydd yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe'n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a'i ladd gyda hi.

24 Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‛Tri Dewr‛.

25 Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o'r ‛Tri‛. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.

26 Dyma restr o'r milwyr dewr eraill: Asahel, brawd Joab, Elchanan fab Dodo o Bethlehem,

27 Shamoth o Haror, Chelets o Pelon,

28 Ira fab Iccesh o Tecoa, Abieser o Anathoth,

29 Sibechai o Chwsha, Ilai o deulu Achoach,

30 Maharai o Netoffa, Cheled fab Baana o Netoffa,

31 Ithai fab Ribai o Gibea Benjamin, Benaia o Pirathon,

32 Chwrai o Wadi Gaash, Abiel o Arba,

33 Asmafeth o Bachwrîm, Eliachba o Shaalbon,

34 meibion Hashem o Gison, Jonathan fab Sage o Harar,

35 Achïam fab Sachar o Harar, Eliffal fab Wr

36 Cheffer o Mecherath, Achïa o Pelon

37 Chetsro o Carmel, Naärai fab Esbai,

38 Joel brawd Nathan, Mifchar fab Hagri,

39 Selec o Ammon, Nachrai o Beroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),

40 Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,

41 Wreia yr Hethiad, Safad fab Achlai

42 Adina fab Shisa, arweinydd llwyth Reuben, a'r tri deg o filwyr oedd gydag e,

43 Chanan fab Maacha, Ioshaffat o Mithna,

44 Wsïa o Ashtaroth, Shama a Jeiel, meibion Chotham o Aroer,

45 Iediael fab Shimri, a Iocha ei frawd, o Tis,

46 Eliel y Machafiad, Ierifai a Ioshafeia, meibion Elnaäm, ac Ithma o Moab,

47 Eliel, Obed, a Iaäsiel o Soba.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29