1 Dyma'r meibion gafodd Dafydd pan oedd yn byw yn Hebron:Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.Yr ail oedd Daniel, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
2 Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.
3 Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall iddo.
4 Cafodd y chwech yma eu geni pan oedd Dafydd yn Hebron. Roedd yn frenin yno am saith mlynedd a hanner.Yna roedd yn frenin yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.
5 A dyma'r meibion gafodd e yno:Shamma, Shofaf, Nathan, a Solomon – mam y pedwar oedd Bathseba ferch Ammiel.
6 Naw mab arall Dafydd oedd:Ifchar, Elishwa, Eliffelet,
7 Noga, Neffeg, Jaffia,
8 Elishama, Eliada, ac Eliffelet.
9 Meibion Dafydd oedd y rhain i gyd, heb gyfri plant ei bartneriaid. Tamar oedd eu chwaer nhw.
10 Mab Solomon oedd Rehoboam, wedyn Abeia, ei fab e, ac yn y blaen drwy Asa, Jehosaffat,
11 Jehoram, Ahaseia, Joas,
12 Amaseia, Asareia, Jotham,
13 Ahas, Heseceia, Manasse,
14 Amon, a Joseia
15 a'i bedwar mab e, Iochanan (yr hynaf), yna Jehoiacim, Sedeceia, a Shalwm.
16 Jehoiacim oedd tad Jehoiachin a Sedeceia.
17 Meibion Jehoiachin gafodd ei gaethgludo:Shealtiel,
18 Malciram, Pedaia, Shenatsar, Iecameia, Hoshama, a Nedabeia.
19 Meibion Pedaia:Serwbabel a Shimei.Meibion Serwbabel:Meshwlam a Chananeia; a Shlomit oedd eu chwaer nhw.
20 Y pump arall oedd Chashwfa, Ohel, Berecheia, Chasadeia, a Iwshaf-chesed.
21 Disgynyddion Chananeia:Plateia a Ieshaia, meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, a meibion Shechaneia.
22 Disgynyddion Shechaneia:Shemaia a'i feibion: Chattwsh, Igal, Barïach, Nearia, a Shaffat – chwech i gyd.
23 Meibion Nearia:Elioenai, Heseceia, ac Asricam, tri.
24 Meibion Elioenai:Hodafia, Eliashif, Pelaia, Accwf, Iochanan, Delaia, ac Anani – saith i gyd.