1 Cronicl 5 BNET

Disgynyddion Reuben

1 Meibion Reuben, mab hynaf Israel (Reuben oedd y mab hynaf, ond am ei fod wedi cael rhyw gydag un o gariadon ei dad, dyma fe'n colli safle'r mab hynaf. Meibion Joseff, mab Israel, gafodd y safle yna yn ei le. Felly dydy'r achau ddim yn cael eu cyfrif yn ôl trefn geni.

2 Er bod Jwda wedi dod yn gryfach na'i frodyr, ac arweinydd wedi codi o'i ddisgynyddion, roedd safle'r mab hynaf yn mynd i Joseff.)

3 Meibion Reuben (mab hynaf Israel):Hanoch, Palw, Hesron, a Carmi.

4 Disgynyddion Joel:Shemaia ei fab, wedyn Gog mab hwnnw, ac ymlaen drwy Shimei,

5 Micha, Reaia, Baal,

6 i Beëra oedd wedi cael ei gymryd yn gaeth gan Tiglath-pileser, brenin Asyria. Beëra oedd pennaeth llwyth Reuben.

7 Dyma ei frodyr wedi eu rhestru yn ôl y drefn yn y cofrestrau teuluol:Y pennaeth oedd Jeiel, yna Sechareia,

8 yna Bela fab Asas, ŵyr Shema a gor-ŵyr Joel. Roedd y rhain yn byw yn Aroer, a'u tir yn ymestyn i Nebo a Baal-meon.

9 I'r dwyrain roedd eu tir yn cyrraedd ymyl yr anialwch sydd yr ochr yma i'r Afon Ewffrates. Roedd angen y tir yma i gyd am fod ganddyn nhw ormod o anifeiliaid i'w cadw yn Gilead.

10 Pan oedd Saul yn frenin dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid a'u trechu nhw. Dyma nhw'n cymryd y tir i gyd sydd i'r dwyrain o Gilead.

Disgynyddion Gad

11 Roedd disgynyddion Gad yn byw wrth eu hymyl, yn Bashan, a'r holl ffordd i Salca yn y dwyrain:

12 Joel oedd yr arweinydd, wedyn Shaffam, Janai a Shaffat yn Bashan.

13 Eu perthnasau nhw, arweinwyr saith clan arall, oedd Michael, Meshwlam, Sheba, Iorai, Jacan, Sïa, ac Eber.

14 Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Afichaïl fab Chwri, mab Iaroach, mab Gilead, mab Michael, mab Ieshishai, mab Iachdo, mab Bws.

15 Achi, mab Afdiel ac ŵyr i Gwni oedd pennaeth y clan.

16 Roedden nhw'n byw yn Gilead ac ym mhentrefi Bashan, a drwy dir pori Saron i'r pen draw pellaf.

17 Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn y cofrestrau teuluol pan oedd Jotham yn frenin Jwda, a Jeroboam yn frenin ar Israel.

Y llwythau wnaeth setlo i'r dwyrain o'r Iorddonen

18 Rhwng y tri llwyth (Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse) roedd 44,760 o ddynion dewr oedd yn gallu ymladd. Roedd y rhain yn cario tarian a chleddyf, yn gallu trin bwa saeth, ac yn rhyfelwyr da.

19 Dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid, Ietwr, Naffish, a Nodab.

20 Cawson nhw help Duw i ymladd, a llwyddo i drechu'r Hagriaid a pawb oedd gyda nhw. Roedden nhw wedi galw ar Dduw yng nghanol y frwydr, a gofyn iddo am help. A dyma Duw yn gwrando arnyn nhw am eu bod nhw wedi ymddiried ynddo.

21 Yna dyma nhw'n cymryd anifeiliaid yr Hagriaid – 50,000 o gamelod, 250,000 o ddefaid, a 2,000 o asynnod. Dyma nhw hefyd yn cymryd 100,000 o bobl yn gaethion.

22 Am mai rhyfel Duw oedd hwn cafodd llawer iawn o'r gelynion eu lladd. Buon nhw'n byw ar dir yr Hagriaid hyd amser y gaethglud.

23 Dyma hanner llwyth Manasse yn setlo yn yr ardal hefyd. Roedd yna gymaint ohonyn nhw nes iddyn nhw ymledu o Bashan i Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon.

24 Dyma benaethiaid eu teuluoedd nhw:Effer, Ishi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, ac Iachdiel. Roedd y penaethiaid hyn yn filwyr profiadol ac yn enwog.

Caethgludo'r llwythau oedd yn byw i'r dwyrain o'r Iorddonen

25 Ond dyma nhw'n troi eu cefnau ar Dduw eu hynafiaid a mynd ar ôl duwiau pobl y wlad (y bobl oedd Duw wedi eu dinistrio o'u blaenau.)

26 Felly dyma Duw yn annog Pwl, sef Tiglath-pileser, brenin Asyria, i fynd â phobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse i'r gaethglud. Dyma fe'n mynd â nhw i Halach, Chabor, Hara ac at afon Gosan. Ac maen nhw yno hyd heddiw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29