1 Cronicl 21 BNET

Dafydd yn pechu drwy gyfri ei filwyr

1 Dyma satan yn codi yn erbyn Israel, a gwneud i Dafydd gyfri faint o filwyr oedd gan Israel.

2 Felly dyma'r brenin yn dweud wrth Joab ac arweinwyr ei fyddin, “Dw i eisiau i chi gyfri faint o filwyr sydd yn Israel, o Beersheba yn y de i Dan yn y gogledd. Yna adrodd yn ôl i mi gael gwybod faint ohonyn nhw sydd.”

3 Ond dyma Joab yn ei ateb, “O na fyddai'r ARGLWYDD yn gwneud y fyddin ganwaith yn fwy! Ond fy mrenin, syr, ydyn nhw ddim i gyd yn gwasanaethu fy meistr? Pam wyt ti eisiau gwneud y fath beth? Pam gwneud Israel yn euog?”

4 Ond y brenin gafodd ei ffordd, a dyma Joab yn teithio drwy Israel i gyd, cyn dod yn ôl i Jerwsalem.

5 Yna dyma Joab yn rhoi canlyniadau'r cyfrifiad i Dafydd. Roedd yna un pwynt un miliwn o ddynion Israel allai ymladd yn y fyddin – pedwar cant saith deg mil yn Jwda yn unig.

6 Wnaeth Joab ddim cyfri llwythau Lefi a Benjamin, am ei fod yn anhapus iawn gyda gorchymyn y brenin.

7 Roedd y peth wedi digio Duw hefyd, felly dyma fe'n cosbi Israel.

8 Dyma Dafydd yn dweud wrth Dduw, “Dw i wedi pechu'n ofnadwy drwy wneud hyn. Plîs wnei di faddau i mi? Dw i wedi gwneud peth gwirion.”

9 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Gad, proffwyd Dafydd:

10 “Dos i ddweud wrth Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i'n rhoi tri dewis i ti. Dewis pa un wyt ti am i mi ei wneud.’”

11 Felly dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dewis un o'r rhain –

12 Tair blynedd o newyn, tri mis o gael eich erlid gan eich gelynion a'ch lladd mewn rhyfel, neu dri diwrnod o gael eich taro gan yr ARGLWYDD, pan fydd haint yn lledu trwy'r wlad ac angel yr ARGLWYDD yn lladd pobl drwy dir Israel i gyd.’ Meddwl yn ofalus cyn dweud wrtho i pa ateb dw i i'w roi i'r un sydd wedi f'anfon i.”

13 Dyma Dafydd yn ateb Gad, “Mae'n ddewis caled! Ond mae'r ARGLWYDD mor drugarog! Byddai'n well gen i gael fy nghosbi ganddo fe na gan ddynion.”

14 Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon pla ar wlad Israel, a buodd saith deg mil o bobl farw.

15 Dyma Duw yn anfon angel i ddinistrio Jerwsalem. Ond wrth iddo wneud hynny, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed. Dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Ornan y Jebwsiad.)

16 Dyma Dafydd yn gweld angel yr ARGLWYDD yn sefyll rhwng y ddaear a'r awyr a'r cleddyf yn ei law yn pwyntio at Jerwsalem. A dyma Dafydd a'r arweinwyr, oedd yn gwisgo sachliain, yn plygu a'u hwynebau ar lawr.

17 A dyma Dafydd yn gweddïo ar Dduw, “Onid fi wnaeth benderfynu cyfri'r milwyr? Fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg ofnadwy yma! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. O ARGLWYDD Dduw, cosba fi a'm teulu, a symud y pla oddi wrth dy bobl.”

Dafydd yn codi allor

18 Felly dyma angel yr ARGLWYDD yn anfon Gad i ddweud wrth Dafydd am fynd i godi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad.

19 Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gofyn i Gad ei ddweud ar ei ran.

20 Roedd Ornan wrthi'n dyrnu ŷd pan drodd a gweld yr angel, a dyma fe a'i bedwar mab yn mynd i guddio.

21 Yna dyma Ornan yn gweld Dafydd yn dod ato, a dyma fe'n dod allan o'r llawr dyrnu ac yn ymgrymu o flaen Dafydd â'i wyneb ar lawr.

22 A dyma Dafydd yn dweud wrth Ornan, “Dw i eisiau i ti werthu'r llawr dyrnu i mi, er mwyn i mi godi allor i'r ARGLWYDD – gwna i dalu'r pris llawn i ti – i stopio'r pla yma ladd y bobl.”

23 Dyma Ornan yn dweud wrth Dafydd, “Syr, cymer e, a gwneud beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu'n goed tân, a'r gwenith yn offrwm o rawn. Cymer y cwbl.”

24 Ond dyma'r brenin Dafydd yn ateb Ornan, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno dy eiddo di yn offrwm i'r ARGLWYDD, neu aberthau i'w llosgi sydd wedi costio dim byd i mi.”

25 Felly dyma Dafydd yn prynu'r lle gan Ornan am chwe chan darn aur.

26 Wedyn adeiladodd allor i'r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn ymateb drwy anfon tân i lawr o'r awyr a llosgi y aberth ar yr allor.

27 Dyma'r ARGLWYDD yn gorchymyn i'r angel gadw ei gleddyf.

28 Pan welodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ateb ei weddi ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad, dyma fe'n llosgi aberth yno.

29 Yr adeg honno, roedd Tabernacl yr ARGLWYDD, (yr un roedd Moses wedi ei hadeiladu yn yr anialwch) a'r allor i losgi aberthau arni, wrth yr allor leol yn Gibeon.

30 Ond doedd Dafydd ddim yn gallu mynd yno i ofyn am arweiniad Duw am fod arno ofn cleddyf angel yr ARGLWYDD.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29