1 Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Joab yn arwain ei fyddin i ryfel a dinistrio gwlad yr Ammoniaid. Dyma fe'n gwarchae ar Rabba tra roedd Dafydd yn dal yn Jerwsalem, a dyma Joab yn concro Rabba a'i dinistrio.
2 Dyma Dafydd yn cymryd coron eu brenin nhw a'i rhoi ar ei ben ei hun. Roedd hi wedi ei gwneud o dri deg cilogram o aur, ac roedd gem werthfawr arni. Casglodd Dafydd lot fawr o ysbail o'r ddinas hefyd.
3 Symudodd y bobl allan, a'u gorfodi nhw i weithio iddo gyda llifau, ceibiau a bwyeill. Gwnaeth Dafydd yr un peth gyda pob un o drefi'r Ammoniaid. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem gyda'i fyddin gyfan.
4 Beth amser wedyn roedd brwydr arall yn erbyn y Philistiaid, yn Geser. Y tro hwnnw dyma Sibechai o Chwsha yn lladd Sippai, un o ddisgynyddion y Reffaiaid. Roedd y Philistiaid wedi eu trechu'n llwyr.
5 Mewn brwydr arall eto yn erbyn y Philistiaid, dyma Elchanan fab Jair yn lladd Lachmi, brawd Goliath o Gath (yr un oedd â gwaywffon gyda choes iddi oedd fel trawst ffrâm gwehydd!)
6 Yna roedd brwydr arall eto yn Gath. Y tro yma roedd cawr o ddyn gyda chwe bys ar ei ddwylo a'i draed – dau ddeg pedwar o fysedd i gyd. (Roedd hwn hefyd yn un o ddisgynyddion y Reffaiaid.)
7 Roedd yn gwneud hwyl am ben Israel, a dyma Jonathan, mab Shamma brawd Dafydd, yn ei ladd e.
8 Roedd y rhain yn ddisgynyddion i'r Reffaiaid o Gath, a Dafydd a'i filwyr wnaeth ladd pob un.