1 Cronicl 14 BNET

Dylanwad Dafydd yn tyfu

1 Dyma Huram, brenin Tyrus, yn anfon negeswyr at Dafydd. Anfonodd seiri coed a seiri maen gyda nhw, a choed cedrwydd, i adeiladu palas i Dafydd.

2 Roedd Dafydd yn gweld mai'r ARGLWYDD oedd wedi ei wneud yn frenin ar Israel ac wedi gwneud i'w deyrnas lwyddo'n fawr, er mwyn ei bobl Israel.

3 Yn Jerwsalem dyma Dafydd yn cymryd mwy o wragedd, ac yn cael mwy o blant eto.

4 Dyma enwau'r plant gafodd e yn Jerwsalem: Shammwa, Shofaf, Nathan, Solomon,

5 Ifchar, Elishwa, Elpelet,

6 Noga, Neffeg, Jaffia,

7 Elishama, B'eliada ac Eliffelet.

Ennill brwydr yn erbyn y Philistiaid

8 Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio'n frenin ar Israel i gyd, dyma eu byddin gyfan yn mynd allan i chwilio amdano. Clywodd Dafydd am hyn, ac aeth allan i ymladd yn eu herbyn nhw.

9 Roedd byddin y Philistiaid wedi dod ac ymosod ar Ddyffryn Reffaïm.

10 Dyma Dafydd yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd i ymladd yn erbyn y Philistiaid? Fyddi di'n gwneud i mi ennill?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Dos i fyny, achos bydda i yn eu rhoi nhw i ti.”

11 Felly aeth i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. Dwedodd Dafydd, “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri trwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr.” A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.

12 Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, a dyma Dafydd yn gorchymyn iddyn nhw gael eu llosgi.

13 Dyma'r Philistiaid yn ymosod eto ar y dyffryn.

14 A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i Dduw beth i'w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o'r tu blaen. Dos rownd y tu ôl iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam.

15 Pan fyddi'n clywed sŵn cyffro yn y coed, ymosod ar unwaith. Dyna'r arwydd fod Duw yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.”

16 Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd Duw wedi dweud wrtho, a dyma nhw'n taro byddin y Philistiaid yr holl ffordd o Gibeon i gyrion Geser.

17 Roedd Dafydd yn enwog ym mhobman; roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r gwledydd i gyd ei ofni.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29