40 Meibion Shofal:Alïan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.Meibion Sibeon:Aia, ac Ana.
41 Mab Ana:Dishon.Meibion Dishon:Hemdan, Eshban, Ithran a Ceran.
42 Meibion Etser:Bilhan, Saafan, a Iacân.Meibion Dishan:Us ac Aran.
43 Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:Bela fab Beor, oedd yn dod o dref Dinhaba.
44 Ar ôl i Bela farw dyma Iobab fab Serach o Bosra yn dod yn frenin yn ei le.
45 Ar ôl i Iobab farw, Chwsham o ardal Teman ddaeth yn frenin.
46 Ar ôl i Chwsham farw, Hadad fab Bedad o dre Afith ddaeth yn frenin. (Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.)