43 Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:Bela fab Beor, oedd yn dod o dref Dinhaba.
44 Ar ôl i Bela farw dyma Iobab fab Serach o Bosra yn dod yn frenin yn ei le.
45 Ar ôl i Iobab farw, Chwsham o ardal Teman ddaeth yn frenin.
46 Ar ôl i Chwsham farw, Hadad fab Bedad o dre Afith ddaeth yn frenin. (Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.)
47 Ar ôl i Hadad farw dyma Samla o Masreca yn dod yn frenin.
48 Ar ôl i Samla farw, Saul o Rehoboth ar Afon Ewffrates ddaeth yn frenin.
49 Ar ôl i Saul farw dyma Baal-chanan fab Achbor yn dod yn frenin.