11 Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead am bopeth roedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul,
12 dyma'r milwyr yn mynd allan i nôl cyrff Saul a'i feibion a mynd â nhw i Jabesh. Dyma nhw'n cymryd yr esgyrn a'u claddu o dan y goeden dderwen yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.
13 Felly buodd Saul farw am ei fod wedi bod yn anffyddlon ac anufudd i'r ARGLWYDD. Roedd e hyd yn oed wedi troi at ddewiniaeth,
14 yn lle gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD. Felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd ac yn rhoi ei frenhiniaeth i Dafydd fab Jesse.