2 Roedd y Philistiaid reit tu ôl i Saul a'i feibion, a dyma nhw'n llwyddo i ladd ei feibion, Jonathan, Abinadab a Malci-shwa.
3 Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma'r bwasaethwyr yn ei daro, a'i anafu'n ddrwg.
4 Dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i'r paganiaid yma ddod a'm poenydio i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny. Felly dyma Saul yn cymryd y cleddyf ac yn syrthio arno.
5 Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw.
6 Felly cafodd Saul a tri o'i feibion, a'i deulu i gyd eu lladd gyda'i gilydd.
7 Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn yn clywed fod y milwyr wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi. A dyma'r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw.
8 Y diwrnod ar ôl y frwydr dyma'r Philistiaid yn dod i ddwyn oddi ar y cyrff meirw. A dyma nhw'n dod o hyd i Saul a'i feibion yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa.