1 Dyma enwau'r dynion wnaeth ymuno gyda Dafydd yn Siclag, pan oedd yn dal i guddio oddi wrth Saul fab Cish. (Roedden nhw'n rhai o'r rhyfelwyr wnaeth frwydro drosto,
2 ac yn gallu defnyddio bwa saeth neu ffon dafl gyda'r llaw dde a'r chwith. Roedden nhw o lwyth Benjamin, sef yr un llwyth â Saul):
3 Achieser oedd yr arweinydd, a Joash, meibion Shemaa o Gibea; Jesiel a Pelet, meibion Asmafeth; Beracha, Jehw o Anathoth,
4 Ishmaïa o Gibeon (un o arweinwyr y tri deg milwr dewr), Jeremeia, Iachsiel, Iochanan, Iosafad o Gedera,
5 Elwsai, Ierimoth, Bealeia, Shemareia, Sheffateia o Charwff,