1 Cronicl 12:8 BNET

8 Dyma rai o lwyth Gad yn dod at Dafydd i'w gaer yn yr anialwch. Roedd y rhain yn ddynion dewr, yn filwyr wedi profi eu hunain mewn rhyfel. Roedden nhw'n cario tarianau a gwaywffyn. Roedd golwg fel llewod arnyn nhw, ac roedden nhw'n gallu rhedeg mor gyflym â gasél ar y bryniau.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 12

Gweld 1 Cronicl 12:8 mewn cyd-destun