10 Disgynyddion Wssiel: Aminadab, yr arweinydd, a 112 o'i berthnasau.
11 Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriaid, Sadoc ac Abiathar, a'r Lefiaid, Wriel, Asaia, Joel, Shemaia, Eliel ac Aminadab.
12 A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Chi ydy arweinwyr y Lefiaid. Rhaid i chi a'ch perthnasau fynd trwy'r ddefod o buro eich hunain, i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'r lle dw i wedi ei baratoi iddi.
13 Roedd yr ARGLWYDD wedi'n cosbi ni y tro cyntaf am eich bod chi ddim gyda ni, a'n bod heb ofyn iddo am y ffordd iawn i'w symud.”
14 Felly dyma'r offeiriad a'r Lefiaid yn cysegru eu hunain i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel.
15 A dyma'r Lefiaid yn cario Arch Duw ar eu hysgwyddau gyda pholion, am fod Moses wedi dweud mai dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn.
16 Yna dyma Dafydd yn dweud wrth arweinwyr y Lefiad i ddewis rhai o'u perthnasau oedd yn gerddorion i ganu offerynnau cerdd, nablau, telynau a symbalau, ac i ganu'n llawen.