20 Sechareia, Asiel, Shemiramoth, Ichiel, Wnni, Eliab, Maaseia, a Benaia i ganu telynau bach;
21 Matitheia, Eliffelehw, Micneia, Obed-Edom, Jeiel ac Asaseia i ganu'r telynau mawr, gydag arweinydd yn eu harwain.
22 Cenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd arweinydd y côr, am fod ganddo brofiad yn y maes;
23 wedyn Berecheia ac Elcana yn gofalu am yr Arch,
24 a'r offeiriaid Shefaneia, Ioshaffat, Nethanel, Amasai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yn canu'r utgyrn o flaen yr Arch. Roedd Obed-Edom a Iecheia hefyd yn gwylio'r Arch.
25 Felly dyma Dafydd, ac arweinwyr Israel, a chapteiniaid yr unedau o fil, yn mynd i dŷ Obed-Edom i nôl Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD i Jerwsalem, gyda dathlu mawr.
26 Am fod Duw yn helpu'r Lefiaid i gario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD, dyma nhw'n aberthu saith tarw ifanc a saith hwrdd.