6 Disgynyddion Merari: Asaia, yr arweinydd, a 220 o'i berthnasau.
7 Disgynyddion Gershom: Joel, yr arweinydd, a 130 o'i berthnasau.
8 Disgynyddion Elitsaffan: Shemaia, yr arweinydd, a 200 o'i berthnasau.
9 Disgynyddion Hebron: Eliel, yr arweinydd, ac 80 o'i berthnasau.
10 Disgynyddion Wssiel: Aminadab, yr arweinydd, a 112 o'i berthnasau.
11 Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriaid, Sadoc ac Abiathar, a'r Lefiaid, Wriel, Asaia, Joel, Shemaia, Eliel ac Aminadab.
12 A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Chi ydy arweinwyr y Lefiaid. Rhaid i chi a'ch perthnasau fynd trwy'r ddefod o buro eich hunain, i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'r lle dw i wedi ei baratoi iddi.