7 Aeth Dafydd â'r tariannau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem.
8 A cymerodd lot fawr o bres hefyd o Tifchath a Cwn, trefi Hadadeser (Defnyddiodd Solomon y pres i wneud y basn mawr oedd yn cael ei alw “Y Môr,” a hefyd y pileri ac offer arall o bres.).
9 Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro Hadadeser, brenin Soba, a'i fyddin i gyd,
10 dyma fe'n anfon ei fab Hadoram ato i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Ac aeth â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e.
11 A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi ei gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, sef: Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid.
12 Roedd Abishai fab Serwia wedi lladd un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen.
13 A dyma fe'n gosod garsiynau yn Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd.