7 Dyma nhw'n llogi 32,000 o gerbydau, a dyma frenin Maacha a'i fyddin yn dod ac yn gwersylla o flaen Medeba. A dyma ddynion Ammon yn dod at ei gilydd o'u trefi er mwyn mynd allan i frwydro.
8 Pan glywodd Dafydd hyn, dyma fe'n anfon Joab allan gyda milwyr gorau'r fyddin gyfan.
9 Yna dyma'r Ammoniaid yn dod allan a gosod eu byddin yn rhengoedd o flaen giatiau'r ddinas. Ond roedd y brenhinoedd oedd wedi dod i ymladd ar eu pennau eu hunain ar dir agored.
10 Dyma Joab yn gweld y byddai'n rhaid iddo ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl. Felly dyma fe'n dewis rhai o filwyr gorau byddin Israel i wynebu'r Syriaid.
11 A dyma fe'n cael ei frawd, Abishai, i arwain gweddill y fyddin yn erbyn yr Ammoniaid.
12 “Os bydd y Syriaid yn gryfach na ni,” meddai, “tyrd ti i'n helpu ni. Ac os bydd yr Ammoniaid yn gryfach na chi, gwna i eich helpu chi.
13 Gad i ni fod yn ddewr! Er mwyn ein pobl, ac er mwyn trefi ein Duw. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud fel mae'n gweld yn dda.”