17 Cafodd Abigail fab o'r enw Amasa, a'r tad oedd Jether yr Ismaeliad.
18 Cafodd Caleb fab Hesron blant gyda'i wraig Aswba a gyda Ierioth. Ei meibion hi oedd Jeser, Shofaf ac Ardon.
19 Pan fuodd Aswba farw, dyma Caleb yn priodi Effrath, a cafodd hi fab arall iddo, sef Hur.
20 Hur oedd tad Wri,ac Wri oedd tad Betsalel.
21 Dyma Hesron yn cael rhyw gyda merch i Machir (tad Gilead). Roedd e wedi ei phriodi pan oedd yn chwe deg oed. A dyma hi'n cael mab iddo, sef Segwf.
22 Segwf oedd tad Jair, oedd yn berchen dau ddeg tri o bentrefi yn ardal Gilead.
23 (Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda'r chwe deg pentref o'i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead.