14 Edrych, er mod i'n siomedig, dw i wedi casglu beth sydd ei angen i adeiladu teml yr ARGLWYDD: bron 4,000 o dunelli o aur, 40,000 o dunelli o arian, a cymaint o efydd a haearn does dim posib ei bwyso! Coed a cherrig hefyd. A byddi di'n casglu mwy eto.
15 Mae gen ti lawer iawn o weithwyr hefyd, rhai i dorri cerrig, eraill yn seiri maen a seiri coed, a crefftwyr o bob math,
16 i weithio gydag aur, arian, efydd a haearn. Felly bwrw iddi! A boed i'r ARGLWYDD fod gyda ti!”
17 Yna dyma Dafydd yn rhoi gorchymyn i swyddogion Israel i helpu ei fab Solomon.
18 “Mae'r ARGLWYDD, eich Duw, gyda chi! Mae wedi rhoi heddwch i'r wlad. Mae wedi rhoi'r gwledydd o'n cwmpas i mi, ac maen nhw i gyd bellach dan awdurdod yr ARGLWYDD a'i bobl.
19 Nawr, rhowch eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw. Ewch ati i adeiladu teml i'r ARGLWYDD Dduw, fel y gallwch ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar holl lestri sanctaidd i'r deml fydd wedi ei hadeiladu i'w anrhydeddu”.