4 Doedd dim posib cyfri'r holl goed cedrwydd ychwaith (roedd pobl Sidon a Tyrus wedi dod â llawer iawn ohonyn nhw iddo.)
5 A dyma Dafydd yn esbonio, “Mae Solomon, fy mab, yn ifanc ac yn ddibrofiad. Mae'n rhaid i'r deml fydd yn cael ei hadeiladu i'r ARGLWYDD fod mor wych, bydd yn enwog ac yn cael ei hedmygu drwy'r byd i gyd. Dyna pam dw i'n paratoi ar ei chyfer.” Felly roedd Dafydd wedi gwneud paratoadau mawr cyn iddo farw.
6 Yna dyma Dafydd yn galw ei fab, Solomon, a rhoi gorchymyn iddo adeiladu teml i'r ARGLWYDD, Duw Israel.
7 Dwedodd wrtho, “Fy mab, roeddwn i wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD fy Nuw.
8 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Rwyt ti wedi lladd gormod o bobl ac wedi ymladd llawer o frwydrau. Felly gei di ddim adeiladu teml i mi, o achos yr holl waed sydd wedi ei dywallt.
9 Ond gwranda, byddi'n cael mab, a bydd e'n ddyn heddychlon. Bydda i'n gwneud i'r holl elynion o'i gwmpas roi llonydd iddo. Ei enw fydd Solomon, a bydd Israel yn cael heddwch a thawelwch yn y cyfnod pan fydd e'n frenin.
10 Bydd e'n adeiladu'r deml i mi. Bydd e'n fab i mi a bydda i'n dad iddo fe. Bydda i'n gwneud i'w linach deyrnasu ar Israel am byth.’