9 Ond gwranda, byddi'n cael mab, a bydd e'n ddyn heddychlon. Bydda i'n gwneud i'r holl elynion o'i gwmpas roi llonydd iddo. Ei enw fydd Solomon, a bydd Israel yn cael heddwch a thawelwch yn y cyfnod pan fydd e'n frenin.
10 Bydd e'n adeiladu'r deml i mi. Bydd e'n fab i mi a bydda i'n dad iddo fe. Bydda i'n gwneud i'w linach deyrnasu ar Israel am byth.’
11 “Nawr, fy mab, boed i'r ARGLWYDD fod gyda ti! Boed i ti lwyddo, ac adeiladu teml i'r ARGLWYDD dy Dduw, fel dwedodd e.
12 A boed i'r ARGLWYDD roi doethineb a dealltwriaeth i ti, pan fyddi di'n gyfrifol am Israel, i ti fod yn ufudd i gyfraith yr ARGLWYDD dy Dduw.
13 Byddi'n siŵr o lwyddo os byddi'n cadw'n ofalus y rheolau a'r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel. Bydd yn gryf ac yn ddewr; paid bod ag ofn a panicio.
14 Edrych, er mod i'n siomedig, dw i wedi casglu beth sydd ei angen i adeiladu teml yr ARGLWYDD: bron 4,000 o dunelli o aur, 40,000 o dunelli o arian, a cymaint o efydd a haearn does dim posib ei bwyso! Coed a cherrig hefyd. A byddi di'n casglu mwy eto.
15 Mae gen ti lawer iawn o weithwyr hefyd, rhai i dorri cerrig, eraill yn seiri maen a seiri coed, a crefftwyr o bob math,