5 4,000 i fod yn ofalwyr yn gwylio'r giatiau; a 4,000 i arwain y mawl i'r ARGLWYDD gyda'r offerynnau cerdd dw i wedi eu darparu ar gyfer yr addoliad.”
6 A dyma Dafydd yn eu rhannu nhw'n grwpiau wedi eu henwi ar ôl meibion Lefi: Gershon, Cohath a Merari.
7 Dau fab Gershon oedd Ladan a Shimei.
8 Meibion Ladan: Iechiel yr hynaf, Setham, a Joel – tri.
9 Meibion Shimei: Shlomith, Chasiel, a Haran – tri. Nhw oedd arweinwyr teulu Ladan.
10 Meibion Shimei: Iachath, Sina, Iewsh, a Bereia. Dyma feibion Shimei – pedwar.
11 Iachath oedd yr hynaf, wedyn Sisa. Doedd gan Iewsh a Bereia ddim llawer o feibion, felly roedden nhw'n cael eu cyfrif fel un teulu.