1 Dyma Dafydd a swyddogion y fyddin yn dewis rhai o ddisgynyddion Asaff, Heman a Iedwthwn i broffwydo i gyfeiliant telynau, nablau a symbalau. Dyma'r dynion gafodd y gwaith yma:
2 Meibion Asaff:Saccwr, Joseff, Nethaneia, ac Asarela, dan arweiniad eu tad Asaff, oedd yn proffwydo pan oedd y brenin yn dweud.
3 Meibion Iedwthwn:Gedaleia, Seri, Ishaeia, Chashafeia, a Matitheia – chwech, dan arweiniad eu tad Iedwthwn. Roedd yn proffwydo wrth ganu'r delyn, yn diolch ac yn moli'r ARGLWYDD.
4 Meibion Heman:Bwcïa, Mataneia, Wssiel, Shefwel, Ierimoth, Chananeia, Chanani, Eliatha, Gidalti, Romamti-Eser, Ioshbecashâ, Maloti, Hothir, a Machsïot.